Fe fydd cyfarfod cyhoeddus gan y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy yn cael ei gynnal yn yr Eisteddfod i drafod y bil newydd ar ddatblygu cynaliadwy (a ail-enwyd yn ‘Bil Cenhedlaethau’r Dyfodol’ gan Lywodraeth Cymru).

Yn dilyn cyhoeddu ein llyfryn newydd ‘Llunio ein Dyfodol’ fe fydd hyn yn gyfle i fudiadau ac unigolion sydd a diddordeb mewn llunio dyfodol gwell i Gymru i drafod potensial y bil i warchod y blaned ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol, cynnal y Gymraeg gwella ansawdd ein bywyd a chreu swyddi gwyrdd.

Bydd Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Dafydd Elis Thomas AC yn anerch y cyfarfod, yn ogystal a chyfraniadau gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Oxfam Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru.

‘Byw yn Gynaliadwy’

10:30yb, Dydd Mawrth, Awst 6ed, Pabell y Cymdeithasau 2, Maes yr Eisteddfod, Dinbych

Dafydd Elis Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Robin Farrar, Cymdeithas yr Iaith

Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Cymru & Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru

Lila Haines, Oxfam Cymru


Cefnogir gan Gynghrair y Bil Datblygu Cynaliadwy