Mae pobl flaenllaw, gan gynnwys yr arweinydd busnes Syr Stuart Rose a’r ymgyrchydd amgylcheddol Jonathon Porritt, wedi cefnogi ymgyrch i wneud Cymru’n arloeswr byd ym maes datblygu cynaliadwy.

Heddiw (16 Gorffennaf 2013) mae cynghrair o fwy nag 20 o sefydliadau yn cyhoeddi ei chynnig amgen ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy pwysig Llywodraeth Cymru.

Dywed y grwp y bydd y gyfraith newydd yn penderfynu sut y bydd Cymru’n datblygu dros ddegawdau i ddod. Yn ei ddogfen, Llunio ein Dyfodol, mae’n galw am i’r ddeddfwriaeth gynnwys dyletswydd ar y llywodraeth a chyrff cyhoeddus i sicrhau datblygu cynaliadwy – gan ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â’r bobl sy’n fyw heddiw.

Mae hefyd yn nodi diffiniad clir o ddatblygu cynaliadwy ac yn cynnig y byddai Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy dros Gymru’n hyrwyddo a hwyluso datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag ymdrin â chwynion yngl?n â’r ffordd mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau.

Mae cyhoeddi’r ddogfen heddiw’n dilyn pryder gan ymgyrchwyr bod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyfraith hyd yma wedi bod yn rhy wan i wireddu’r addewidion beiddgar a wnaethpwyd gan weinidogion. Mae’r sefydliadau’n gobeithio, gyda gweinidog newydd, Jeff Cuthbert, yn arwain y gwaith o ddatblygu’r gyfraith, y bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi eu cynllun amgen.

Gan siarad ar ran y sefydliadau, dywedodd Haf Elgar:

“Mae’r Bil Datblygu Cynaliadwy’n gyfle gwych i Gymru osod esiampl i’r byd trwy sicrhau bod y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â’r bobl sy’n fyw heddiw. Mae’n galonogol gweld amrywiaeth mor fawr o sefydliadau’n cefnogi’r gyfraith amgen rydyn ni wedi’i chyhoeddi heddiw.”

“Rydyn ni’n cyflwyno cynllun ar gyfer cyfraith gref a fyddai’n sicrhau buddion gwirioneddol i bobl ac i’r blaned. Drwy osod dyletswydd glir ar awdurdodau cyhoeddus i gyflawni datblygu cynaliadwy, byddai gweinidogion yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig ar gyfer y tymor hir, fel creu swyddi mewn ffyrdd sy’n brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, gwneud penderfyniadau cynllunio sy’n cefnogi cymunedau Cymraeg, a sicrhau bod bwyd lleol, iach ar gael i bawb.”

“Allwn ni ddim fforddio rhoi baich canlyniadau penderfyniadau anghynaliadwy ar genedlaethau’r dyfodol. Os yw’r bil amgen hwn yn cael ei roi ar waith, bydd yn sicrhau ansawdd bywyd gwell i bobl yng Nghymru a’n bod ni’n chwarae ein rhan, fel dinasyddion byd-eang, i helpu i sicrhau bywyd boddhaol i bobl sy’n byw mewn tlodi o gwmpas y byd.”

Mae’r llyfryn newydd ar gael yma – Llunio ein Dyfodol

Mae’r sefydliadau sy’n cefnogi’r bil amgen a gynigir yn cynnwys:

• Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru
• CAFOD
• Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
• Cyfeillion y Ddaear Cymru
• Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
• Cymorth Cristnogol Cymru
• Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
• Cynnal Cymru
• Disability in Wales and Africa
• Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched – Cymru
• Hub Datblygu Rhyngwladol Cymru
• Life for African Mothers
• Love Zimbabwe
• Masnach Deg Cymru
• Oxfam Cymru
• RSPB Cymru
• Sefydliad Bevan
• Tearfund
• Tools for Self Reliance Cymru
• WWF Cymru
• Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod
• Ymddiriedolaethau Natur Cymru