Mae nifer o aelod mudiadau Climate.Cymru wedi eu hysbrydoli gan eu ffydd – fel y mynegwyd yn rymus yn y blog gan Anna Fraine fis Ebrill. Mae clymblaid ryfeddol o eang o eglwysi a mudiadau Cristnogol ledled Prydain ac Iwerddon wedi dod ynghyd i rannu ein hadnoddau wrth ymbaratoi ar gyfer cynhadledd COP26 yn Glasgow fis Tachwedd, yng  nghynllun Sul yr Hinsawdd. Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) sy’n darparu llais o Gymru yn nhrefniant y cynllun hwn.

Mae’r ymrwymiad triphlyg rydym yn gofyn gan gefnogwyr Sul yr Hinsawdd yn gweu yn berffaith gyda nodau Climate Cymru:

  • Rydym yn gofyn i eglwysi gynnal o leiaf un oedfa wedi’i chanoli ar yr hinsawdd. Tra bod oedfa yn weithred ar y cyd, mae’n dyfnhau ein perthynas bersonol â Duw y Creawdwr. Mae felly yn ein hatgoffa ein bod yn sefyll yn bersonol gyfrifol gerbron Duw. I ni yn y byd cyfoethog, mae’n sicr fod angen i bob oedfa Sul yr Hinsawdd gynnwys edifeirwch dwfn am ein ffordd o fyw a sut mae’n cyflymu’r newid yn yr hinsawdd.
  • Rydym wedyn yn gofyn i bob eglwys wneud ymrwymiad tymor-hir i un o’r rhaglenni sydd eisoes yn bodoli i leihau ein hôl troed carbon eglwysig a mynd i’r afael ag argyfyngau cysylltiedig yr hinsawdd a byd natur – megis Eco Church neu LiveSimply. Mae hynny yn ein hatgoffa ein bod ni unigolion yn byw mewn cymuned, a bod yna lawer o gamau – megis adfer natur ar dir ein heglwys neu ddadfuddsoddi arian y capel o danwydd ffosil – sy’n gofyn am weithredu gan y gymuned gyfan.
  • Yn drydydd, gofynnir i eglwysi ymrwymo i Ddatganiad ‘Nawr yw’r Amser’ Clymblaid yr Hinsawdd a gyfeirir at wleidyddion ac arweinyddion byd – gan fod newid hinsawdd yn gyfrifoldeb i bobl mewn grym. Rydym yn annog eglwysi yng Nghymru i ychwanegu eu lleisiau hefyd at Cymru. Nid yw datgarboneiddio’r grid cenedlaethol neu greu coedwig genedlaethol newydd i Gymru yn gynlluniau y gall unigolion na’r eglwys fwyaf ymroddedig eu cyflawni – mae angen llywodraethau i weithredu ar frys. Fe fydd COP26 yn llwyfan pwysig ar gyfer ymrwymiadau felly, ond fe’u ceir dim ond os yw gwleidyddion yn credu ein bod ni, unigolion a chymunedau, yn ddigon angerddol i fynnu newid a fydd, yn ei dro, yn newid ein bywydau ninnau yn sylweddol.

Mae Sul yr Hinsawdd hefyd yn annog pobl i ystyried sut y mae’r argyfwng hinsawdd yn newid eu ffydd, a sut y gall ffydd helpu mynd i’r afael â’r argyfwng ar ôl COP26. Mae hyn yn codi cwestiynau dwys a mae Cytûn yn cynnig darlith o’r enw Diwedd y Byd? Apocalyptic Cristnogol ac ymatebion i newid hinsawdd ar nos Iau Mai 20 am 5yh. Yn aml, fe gyhuddir ymgyrchwyr seciwlar am newid hinsawdd o fod yn “apocalyptaidd” yn eu rhybuddion. Dwy fil o flynyddoedd yn ôl fe wnaed yr un cyhuddiad yn erbyn nifer o awduron y Testament Newydd, yn enwedig awdur Llyfr y Datguddiad. Beth yw’r berthynas rhwng y ddau naratif apocalyptaidd yma? Gallwch fwcio eich tocynnau ar gyfer y ddarlith am ddim yma.

Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) ac yn aelod o Bwyllgor Llywio Sul yr Hinsawdd.