Mae cynghreiriaid o gyrff y gymdeithas sifil ar draws y DG wedi croesawu cyhoeddi dyddiad newydd ar gyfer COP26, trafodaethau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig oedd i fod ymlaen yn Nhachwedd 2020. Bydd COP26 nawr ymlaen ar y 1-12 Tachwedd 2021 yn Glasgow.

Dywedodd Clara Goldsmith, Cyfarwyddwr Ymgyrchu y Climate Coalition:

‘Roedd gohirio COP26 yn angenrheidiol oherwydd yr argyfwng iechyd cyfredol. Fodd bynnag, mae gweithredu ar frys ar newid hinsawdd lawn mor bwysig ag erioed, ac rydym yn croesawu’r dyddiad newydd ar gyfer y trafodaethau. Rydym angen i’r DG sicrhau y bydd yr uwchgynhadledd hinsawdd yn Glasgow yn llwyddiannus ac y bydd yn ein gosod ar lwybr tuag at hinsawdd ddiogel i bawb. Yn ganolog i hyn i gyd mae’r angen i sicrhau y bydd yr adferiad economaidd yn gynaliadwy ac na fydd yn ein hatal rhag cadw cynhesu i 1.5C.’

Ymhlith y pynciau allweddol gaiff eu trafod fydd addewidion y gwledydd i gefnogi ymdrechion i gadw’r cynnydd mewn tymheredd ar gyfartaledd i 1.5C a chynyddu’r cyllid hinsawdd i helpu’r gwledydd sydd wedi gwneud lleiaf i achosi’r broblem, i addasu i effeithiau newid hinsawdd a thyfu economïau allyriadau isel.

Meddai Kevin Rahman-Daultrey, Cyd-gadeirydd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru:

‘Rhaid rhoi sylw iawn i’r trafodaethau, gaiff eu cynnal ar amser fydd yn ddiogel i wneud hynny a phan gaiff lleisiau’r gymdeithas sifil, yr actifyddion, a’r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd eu clywed – tasg fydd angen ystyriaeth ofalus yn dibynnu sut y bydd Cofid-19 yn datblygu.’

Mae cynghreiriad ymgyrchu hinsawdd y DG yn bwriadu symbylu eu cefnogwyr i alw am fwy o weithredu hinsawdd ac ar i lywodraethau’r DG roi cynlluniau uchelgeisiol i leihau allyriadau ymlaen yn fuan er mwyn annog gwledydd eraill i wneud yr un fath.

Meddai Tom Balantine, Cadeirydd Stop Climate Chaos Scotland,

‘Pan fydd y trafodaethau’n cyrraedd Glasgow, bydd pobl y DG yn sefyll mewn undod gyda’r rhai yn y gwledydd hynny sy’n cael eu heffeithio fwyaf, trwy alw am weithredu hinsawdd. Mae’r byd ar lwybr sy’n arwain at newid hinsawdd catastroffig. I newid hyn rhaid adeiladu momentwm nawr yn cynnwys sicrhau Adferiad Cyfiawn a Gwyrdd yn dilyn COFID. Mae’n allweddol fod ein llywodraethau’n dychwelyd at y llwybr i gyrraedd eu targedau hinsawdd. Gallwn, a rhaid inni, osod esiampl i weddill y byd cyn ac yn ystod COP26 yn Glasgow.’

Yn siarad ar ran sefydliadau addysg, NGOs amgylchedd a datblygu yng Ngogledd Iwerddon sy’n cydweithio ar newid hinsawdd, meddai Malachy Campell o’r ‘Northern Ireland Environmental Link’ (NIEL), ‘Rhaid i Ogledd Iwerddon hefyd chwarae ei rhan wrth gyfarfod targedau’r DG. Nid oes gan Ogledd Iwerddon ddeddfwriaeth hinsawdd berthnasol a chredwn fod hyn yn dangos diffyg arweiniad. Yn ‘New Decade, New Approach’, ymrwymodd llywodraeth Gogledd Iwerddon i gyflwyno deddfwriaeth a thargedau ar gyfer lleihau allyriadau carbon a chyhoeddodd Cynulliad Gogledd Iwerddon argyfwng hinsawdd yn Ionawr 2020, ond nid oes byth dargedau ar gyfer Gogledd Iwerddon. Dylid unioni’r cam hwn cyn COP26, neu bydd Llywodraeth y DG mewn sefyllfa o geisio cydlynu’r ymateb byd eang i newid hinsawdd pan fydd un rhan o’r DG heb unrhyw dargedau hinsawdd. Dylai deddf hinsawdd yng Ngogledd Iwerddon fod yn rhan integral o adferiad gwyrdd.’