[Scroll down for Welsh]

Dear Minister

We all love different things that will be affected by climate change. It could be our family, our beautiful coastline or even a nice cup of coffee.

And we’ve already seen things that we love damaged and hurt. Here in Wales, winter storms and floods have harmed our communities and our wildlife. In developing countries, we’ve seen harvests destroyed, leading to hunger.

Through the IPCC reports, scientists made it clear that we need to act quickly. We must make major cuts in greenhouse gas emissions to tackle this threat.

Yet according to recent figures, Wales’ emissions went up in 2012.

We have a target to cut our emissions by 40% by 2020, based on 1990 levels. But with just a quarter of the time remaining, we are less than half way there.

If we continue like this, we will break the commitment of cutting our emissions.

On 21st September, people will show support for action to tackle climate change at demonstrations across the world, including London. These take place ahead of the world leaders’ summit on climate action convened by Ban Ki-moon.

He has asked these leaders to use the Summit to announce bold actions to address climate change. He wants them to set out how they will reduce emissions, make us more resilient to the effects of climate change and mobilise political will for a meaningful legal agreement in 2015.

The people of Wales have spoken too. The recent “The Wales We Want” report put climate change at the top of public concerns for the wellbeing of future generations.

So we want you to take action.

In the next few months, the Welsh Government can show leadership on climate change. It can follow the rhetoric with firm action.

Your Climate Change Strategy ‘Refresh’ must show renewed commitment. It must include a clear plan, across all government departments, to reduce emissions. We want you to set climate targets in law, based on science. And the Well-being of Future Generations Bill must make tackling climate change a key part of public bodies’ decision-making and future planning.

For the love of Wales, and the world, we call on you to show leadership and deliver on your commitments.

Haf Elgar, Chair, Stop Climate Chaos Cymru

Kieran O’Brien, CAFOD Wales

Ann Jones, Chair of the National Federation of Women’s Institutes – Wales

Anne Meikle, Head of WWF Cymru

Kirsty Davies, Head of Oxfam Cymru

Gareth Clubb, Director, Friends of the Earth Cymru

Cathrin Daniel, Head of Christian Aid Wales

Rachel Sharp, Chief Executive Officer, Wildlife Trusts Wales

Jane Lorimer, National Director, Sustrans Cymru

Paul Cook, Advocacy and Media Director, Tearfund

Sarah Kessell, Chief Executive Officer, Wildlife Trusts South West Wales

Sharon Thompson, Head of Conservation, RSPB Cymru

Paul Allen, External Relations Director, Centre for Alternative Technology

______________

Annwyl Weinidog

Rydyn ni i gyd yn hoff iawn o bethau y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnyn nhw. Yn eu mysg gall fod ein teulu, ein harfordir hardd neu hyd yn oed cwpanaid bach da o goffi.

Eisoes rydyn ni wedi gweld pethau rydyn ni’n eu hoffi’n cael eu niweidio a’u brifo. Yma yng Nghymru, mae stormydd gaeaf a llifogydd wedi niweidio ein cymunedau a’n bywyd gwyllt. Mewn gwledydd datblygol, rydyn ni wedi gweld cynaeafau’n cael eu difetha, gan arwain at newyn.

Trwy adroddiadau’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, mae gwyddonwyr wedi nodi’n glir bod angen i ni weithredu ar fyrder. Rhaid i ni leihau allyriadau nwyon t? gwydr yn ddirfawr i fynd i’r afael â’r bygythiad hwn.

Eto i gyd, yn ôl ffigurau diweddar, cynyddodd allyriadau Cymru yn 2012.

Mae gennym ni darged i leihau ein hallyriadau 40% erbyn 2020, ar sail lefelau 1990. Ond gyda dim ond chwarter y cyfnod hwn ar ôl, rydyn ni lai na hanner y ffordd ato.

Os byddwn ni’n mynd ymlaen fel hyn, byddwn yn torri’r ymrwymiad i leihau ein hallyriadau.

Ar 21ain Medi, bydd pobl yn dangos cefnogaeth i weithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd mewn gwrthdystiadau ledled y byd, gan gynnwys yn Llundain. Bydd y rhain yn digwydd cyn uwchgynhadledd arweinwyr y byd ar weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, sydd wedi’i chynnull gan Ban Ki-moon.

Mae ef wedi gofyn i’r arweinwyr hyn ddefnyddio’r uwchgynhadledd i gyhoeddi camau gweithredu beiddgar i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae eisiau iddyn nhw ddweud sut y byddan nhw’n lleihau allyriadau, ein gwneud yn fwy cydnerth yn wyneb effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, a sicrhau ewyllys gwleidyddol i gael cytundeb cyfreithiol ystyrlon yn 2015.

Mae pobl Cymru wedi llefaru hefyd. Yn yr adroddiad diweddar “Y Gymru a Garem” y newid yn yr hinsawdd oedd prif bryder y cyhoedd o ran llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Felly rydyn ni eisiau i chi weithredu.

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, gall Llywodraeth Cymru ddangos arweiniad ar y newid yn yr hinsawdd. Gall ddilyn y rhethreg gyda gweithredu cadarn.

Rhaid i’ch diweddariad ar y Strategaeth Newid Hinsawdd ddangos ymrwymiad newydd. Rhaid iddo gynnwys cynllun clir, ar draws pob un o adrannau’r llywodraeth, i leihau allyriadau. Rydyn ni eisiau i chi osod targedau hinsawdd yn y gyfraith, wedi’u seilio ar wyddoniaeth. Ac mae’n rhaid i Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wneud mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn rhan allweddol o waith cyrff cyhoeddus wrth wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn Cymru, a’r byd, rydyn ni’n galwch arnoch chi i ddangos arweiniad a chyflawni’ch ymrwymiadau.

Haf Elgar, Cadeirydd, Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru

Kieran O’Brien, CAFOD Cymru

Ann Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched – Cymru

Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru

Kirsty Davies, Pennaeth Oxfam Cymru

Gareth Clubb, Cyfarwyddwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Cathrin Daniel, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru

Rachel Sharp, Prif Swyddog Gweithredol, Ymddiriedolaeth Natur Cymru

Jane Lorimer, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Sustrans Cymru

Paul Cook, Cyfarwyddwr Dadleuaeth a’r Cyfryngau, Tearfund

Sarah Kessell, Prif Swyddog Gweithredol, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Sharon Thompson, Pennaeth Cadwraeth, RSPB Cymru

Paul Allen, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol, Canolfan y Dechnoleg Amgen