Mae Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yn aelod o Gynghrair o fudiadau trydydd sector sy’n galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil Datblygu Cynaliadwy cryf er mwyn llunio dyfodol cynaliadwy i Gymru, gan ddefnyddio ond cyfran deg o adnoddau’r blaned.
Rydym wedi ymateb i’r ddau ymgynghoriad cyhoeddus a fu hyd yn hyn, ac yn awyddus i gynnal trafodaeth ehangach ar beth gallai’r ddeddf yma olygu i Gymru ac i’r byd.
Fe fydd rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch yn ymddangos ar y dudalen hon yn ystod yr haf.
Leave A Comment