Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar eu Papur Gwyn ar Ddatblygu Cynaliadwy.

Mae Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yn annog pobl i ymateb i’r ymgynghoriad, ac yn galw am fil cryf a fydd yn gymorth o ran gwarchod y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, cynnal yr iaith Gymraeg, gwella ansawdd ein bywyd a chreu swyddi gwyrdd.

Rydyn ni’n cefnogi bil sy’n;
• Diffinio’n eglur beth yw ystyr datblygu cynaliadwy, gan ystyried effaith rhyngwladol Cymru a pharchu terfynau amgylcheddol;

• Gosod dyletswydd gadarn ar gyrff cyhoeddus i gyflawni eu gwaith gyda’r nod o ddatblygu’n gynaliadwy;

• Penodi Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy cryf ac annibynnol, yn amddiffynnydd i genedlaethau heddiw a’r dyfodol.