Datblygu Cynaliadwy

Cyfarfod yn yr Eisteddfod

Dyma luniau gan Gymdeithas yr Iaith o'n cyfarfod 'Byw yn Gynaliadwy - y bil cynaliadwyedd newydd' a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod yn Ninbych. http://cymdeithas.org/lluniau/trafodaeth-am-y-bil-cynaladwyedd-eisteddfod-dinbych-2013 Diolch yn fawr i bawb gymherodd rhan yn y cyfarfod bywiog yma - ar y panel ac yn y gynulleidfa. Roedd ein pamffled 'Llunio ein Dyfodol' hefyd ar gael ar nifer

Cefnogaeth gan bobl amlwg i ymgyrch ‘cenedlaethau’r dyfodol’ yng Nghymru

Mae pobl flaenllaw, gan gynnwys yr arweinydd busnes Syr Stuart Rose a’r ymgyrchydd amgylcheddol Jonathon Porritt, wedi cefnogi ymgyrch i wneud Cymru’n arloeswr byd ym maes datblygu cynaliadwy. Heddiw (16 Gorffennaf 2013) mae cynghrair o fwy nag 20 o sefydliadau yn cyhoeddi ei chynnig amgen ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy pwysig Llywodraeth Cymru. Dywed y

Cefnogi Bil Datblygu Cynaliadwy Cryf

Mae Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yn aelod o Gynghrair o fudiadau trydydd sector sy'n galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil Datblygu Cynaliadwy cryf er mwyn llunio dyfodol cynaliadwy i Gymru, gan ddefnyddio ond cyfran deg o adnoddau'r blaned. Rydym wedi ymateb i'r ddau ymgynghoriad cyhoeddus a fu hyd yn hyn, ac yn awyddus i

Papur Gwyn ar Ddatblygu Cynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar eu Papur Gwyn ar Ddatblygu Cynaliadwy. Mae Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yn annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad, ac yn galw am fil cryf a fydd yn gymorth o ran gwarchod y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, cynnal yr iaith Gymraeg, gwella ansawdd ein bywyd a chreu swyddi gwyrdd.